Y DRWS AR AGOR I GYDNABOD YR IAITH MEWN CYNLLUNIO

Mae’r drws ar agor i’r Gymraeg gael ei chydnabod mewn deddf fydd yn effeithio ar gynllunio tai.  Dyna gasgliad  Dyfodol i’r Iaith ar ôl cyfarfod â’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Cafodd Bil Cynllunio’r Llywodraeth ei gyflwyno dechrau mis Hydref, heb fod sôn ynddo am faterion polisi, gan gynnwys y Gymraeg.

Meddai’r cyfreithiwr Emyr Lewis, ar ran Dyfodol i’r Iaith, “Roedd yn glir i ni fod y Prif Weinidog yn awyddus i ganfod ffordd i sicrhau na fydd cynlluniau tai newydd yn niweidiol i’r Gymraeg, ond bod materion ymarferol i’w datrys.”

Ychwanegodd Emyr Lewis, “Mae angen cyfundrefn statudol fydd yn galluogi’r Gymraeg i fod yn ystyriaeth ym maes cynllunio, ac a fydd yn darparu gwarchodaeth i’r Gymraeg oddi mewn i’r broses yn yr un modd ag y mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw yn gwarchod yr amgylchedd a safleoedd hanesyddol.”

Cynhaliwyd y cyfarfod rhwng Dyfodol i’r Iaith a’r Prif Weinidog yn dilyn sylwadau a gyflwynodd y mudiad.  Cafwyd trafodaeth adeiladol, ac mae’r Prif Weinidog, yn ôl Dyfodol i’r Iaith,  wedi addo ymateb i awgrymiadau manwl y mudiad.  Bydd Dyfodol i’r Iaith yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Prif Weinidog i ddatrys sut mae rhoi lle i’r Gymraeg mewn deddf sy’n ymwneud â chynllunio.

Cyfeiriodd Carwyn Jones at ei drafodaethau gyda Dyfodol i’r Iaith wrth ymateb i gwestiwn gan Aled Roberts am y bil cynllunio yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog ar brynhawn Mawrth, 21ain Hydref.   Dywedodd Carwyn Jones bod gan Dyfodol i’r Iaith syniadau diddorol, ond bod rhaid edrych ar beth sy’n ymarferol, ac ailadroddodd eto ei fod yn parhau i drafod gyda’r mudiad.

Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn

Mae yna bryder mawr parthed Cynllun Datblygu Lleol Môn a Gwynedd ar y cyd. Mae’r ddwy sir yn sôn am roi caniatâd amlinellol i yn agos at 8,000 o dai dros y 15 mlynedd nesaf. Bu Dyfodol i’r Iaith yn llythyru’r awdurdod er mwyn cwestiynu’r datblygiad yma ac amlinellu yr effaith negyddol ar sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn y Gogledd Orllewin. Ar Orffennaf y 9fed bu dirprwyaeth o Dyfodol, Seimon Brooks, Meirion Davies a Gwion Owain, yn cyfarfod a’r Cynghorydd Dyfed Edwards (arweinydd Cyngor Sir Gwynedd) a’r Cynghorydd John Wyn (portffolio cynllunio) i drafod y mater.

Parhau i ddarllen