Galw am wrthdroi penderfyniad tai yn Sir Gaerfyrddin

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i alw i mewn benderfyniad Cyngor Sir Gâr i godi 289 o dai ym Mhenybanc, ger Rhydaman. Mae aelodau’r mudiad yn pryderu y bydd codi’r nifer hwn o dai mewn ardal lle nad oes ond 400 o dai ar hyn o bryd yn gwaethygu sefyllfa’r Gymraeg yn y sir.

Mae’r Mudiad hefyd yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi Nodyn Cyngor Cynllunio TAN 20 newydd ar fyrder yn sgil penderfyniad Cyngor Sir Gâr, yn arbennig felly gan fod y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros yr iaith, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi y bydd Comisiwn yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Gâr yn benodol. Parhau i ddarllen

Ymateb i’r Ymgynghoriad ar Fil Cynaliadwyedd

Mae’r ymadrodd ‘datblygu cynaliadwy’ yn deillio o’r mudiad amgylcheddol. Ymgais yw i geisio sefydlu egwyddor sy’n sicrhau nad yw twf economaidd yn digwydd ar draul yr amgylchedd naturiol. Ond mae’n ymadrodd sydd hefyd wedi cael defnydd ehangach mewn cyd-destunau eraill lle ofnir bod datblygu yn digwydd ar draul rhywbeth y dymunir ei gynnal megis cyfiawnder, tegwch cymdeithasol, diwylliant – ac wrth gwrs iaith leiafrifol.

Cafodd papur gwyn Llywodraeth Cymru am fil datblygu cynaliadwy ei feirniadu’n hallt am nad oes sôn ynddo am yr iaith Gymraeg. Ac yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011, lle gwelwyd cwymp sylweddol yng nghanrannau’r nifer sy’n siarad Cymraeg yn y siroedd hynny a ystyrir yn gadarnleoedd yr iaith, cafwyd galwadau pellach i fynnu lle teilwng i’r Gymraeg yn y bil. Parhau i ddarllen