POLISI CYFLOGAETH CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD A’R GYMRAEG

Copi o lythyr sydd wedi’i ddanfon at Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Claire Russell Griffiths

Cadeirydd y Bwrdd Rheoli

Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Ionawr 9, 2015

Annwyl Claire Russell Griffiths,

Polisi Cyflogaeth Cartrefi Cymunedol Gwynedd a’r Gymraeg

Ysgrifennaf atoch ar ran y mudiad, Dyfodol i’r Iaith, i nodi ein pryder dwys bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi hysbysebu dwy swydd, swydd Cyfarwyddwr Adnoddau a swydd Cyfarwyddwr Asedau ac Isadeiledd, heb fod y Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar eu cyfer.

Barn Dyfodol i’r Iaith yw mai’r Gymraeg yw priod iaith Gwynedd, a bod meddu arni’n hanfodol er mwyn ymgymryd â gwaith sy’n gysylltiedig â’r sector gyhoeddus, neu â meysydd megis rheolaeth tai a fu gynt yng ngofal y sector gyhoeddus ac sydd wedi ei allanoli i gyrff fel Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Mae’r egwyddor hon – mai’r Gymraeg yw iaith gyhoeddus Gwynedd – wedi ei hen dderbyn, ac mae’n mwynhau cefnogaeth eang ar draws y gymdeithas.

Mae hyn yn cael ei adlewyrchu wrth gwrs yn eich polisi iaith sy’n nodi fod eich staff yn medru Cymraeg, sef y polisi yr ydych wedi penderfynu mynd yn groes iddo wrth hysbysebu’r swyddi hyn.

Byddai bwrw ymlaen â phroses penodi a allai arwain at benodi unigolion na fedrant gyfathrebu yn iaith gyhoeddus, arferedig y sir yn gam enfawr yn ôl, ac nid yn unig i Gartrefi Cymunedol Gwynedd, ond i drigolion y sir i gyd.

Rydym yn cydsynio â’r Comisiynydd Iaith y dylid atal y broses benodi am y tro. Mae angen i honno gael ei chychwyn o’r newydd, a bod y gallu i siarad Cymraeg yn cael ei nodi fel sgil hanfodol ar gyfer y ddwy swydd.

Yn gywir,

Simon Brooks, Ysgrifennydd, Dyfodol i’r Iaith

Y DRWS AR AGOR I GYDNABOD YR IAITH MEWN CYNLLUNIO

Mae’r drws ar agor i’r Gymraeg gael ei chydnabod mewn deddf fydd yn effeithio ar gynllunio tai.  Dyna gasgliad  Dyfodol i’r Iaith ar ôl cyfarfod â’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Cafodd Bil Cynllunio’r Llywodraeth ei gyflwyno dechrau mis Hydref, heb fod sôn ynddo am faterion polisi, gan gynnwys y Gymraeg.

Meddai’r cyfreithiwr Emyr Lewis, ar ran Dyfodol i’r Iaith, “Roedd yn glir i ni fod y Prif Weinidog yn awyddus i ganfod ffordd i sicrhau na fydd cynlluniau tai newydd yn niweidiol i’r Gymraeg, ond bod materion ymarferol i’w datrys.”

Ychwanegodd Emyr Lewis, “Mae angen cyfundrefn statudol fydd yn galluogi’r Gymraeg i fod yn ystyriaeth ym maes cynllunio, ac a fydd yn darparu gwarchodaeth i’r Gymraeg oddi mewn i’r broses yn yr un modd ag y mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw yn gwarchod yr amgylchedd a safleoedd hanesyddol.”

Cynhaliwyd y cyfarfod rhwng Dyfodol i’r Iaith a’r Prif Weinidog yn dilyn sylwadau a gyflwynodd y mudiad.  Cafwyd trafodaeth adeiladol, ac mae’r Prif Weinidog, yn ôl Dyfodol i’r Iaith,  wedi addo ymateb i awgrymiadau manwl y mudiad.  Bydd Dyfodol i’r Iaith yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Prif Weinidog i ddatrys sut mae rhoi lle i’r Gymraeg mewn deddf sy’n ymwneud â chynllunio.

Cyfeiriodd Carwyn Jones at ei drafodaethau gyda Dyfodol i’r Iaith wrth ymateb i gwestiwn gan Aled Roberts am y bil cynllunio yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog ar brynhawn Mawrth, 21ain Hydref.   Dywedodd Carwyn Jones bod gan Dyfodol i’r Iaith syniadau diddorol, ond bod rhaid edrych ar beth sy’n ymarferol, ac ailadroddodd eto ei fod yn parhau i drafod gyda’r mudiad.