SYLWADAU IEUAN WYN JONES YN CADARNHAU’R ANGEN AM GORFF HYD BRAICH I GYNLLUNIO DYFODOL Y GYMRAEG

Yn dilyn sylwadau Ieuan Wyn Jones yn ei lyfr ar ei yrfa wleidyddyol, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw eto am sefydlu Corff Hyd Braich i gynllunio dyfodol y Gymraeg.

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith mae meysydd helaeth yn galw am sylw brys. Mae’r Llywodraeth fel pe bai’n fwyfwy ymwybodol o’r angen am weithredu ym maes tai a’r economi, yr angen i ddatblygu cymunedau lleol, ond mae’r gweithredu’n ddiffygiol

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae diffyg cynllunio cyfannol yn eglur. Mae’r targedau addysg Gymraeg yn dod yn fwyfwy annigonol, mae diffyg cyllid amlwg i ddatblygu dysgu’r Gymraeg i oedolion ac yn y gweithle. Mae’r rhaglen i ddysgu’r Gymraeg i athrawon yn brin, a sôn am gyflwyno cyrsiau 60 awr, lle mae angen rhai 600 awr.

“Mae’n hen bryd sefydlu corff hyd braich, gyda staff arbenigol parhaol, a fydd yn gallu creu rhaglen barhaus gyflawn, i’w derbyn gan wahanol adrannau’r Llywodraeth. Byddai corff o’r fath yn gallu rhoi cyfeiriad creadigol i gynllunio ieithyddol yng Nghymru, gyda phwyslais ar deuluoedd a’r gymuned. Bydd yn gallu hyrwyddo’n effeithiol a dirwystr, a chreu cynlluniau dros dymor hir. Gyda rheoleiddio deallus, a chydweithio gydag Adran Gymraeg y Llywodraeth, bydd modd creu amodau cadarn ar gyfer ffyniant y Gymraeg.

”Rydyn ni’n edrych ymlaen at drafod hyn gyda’r Llywodraeth, sydd, er pob ewyllys da, yn araf wrth yrru pethau ymlaen.”

https://nation.cymru/culture/wales-needs-a-new-body-to-promote-welsh-says-ex-deputy-first-minister/

TRAFODAETHAU’N GYFLE I AILOSOD YR AGENDA AR GYFER Y GYMRAEG.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r trafodaethau sydd ar y gweill rhwng Llafur a Phlaid Cymru ac yn gobeithio bydd hyn yn gyfle i ailosod yr agenda ar gyfer polisïau i gefnogi’r Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:

“Byddwn yn pwyso ar y ddwy Blaid i adnabod y trafodaethau hyn fel cyfle i ystyried gwir anghenion y Gymraeg er mwyn cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr.”

Ymysg y blaenoriaethau, mae’r mudiad yn galw ar y ddwy Blaid i:

  • Ddyrchafu statws Is-Adran y Gymraeg o fewn y Llywodraeth.
  • Ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chyflwyno rhaglen hyfforddi Cymraeg uchelgeisiol i staff sy’n gweithio ym maes addysg.
  • Llunio polisi Cynllunio sy’n gwarchod y Gymraeg a mynd i’r afael â’r argyfwng tai.
  • Gweithredu ar fyrder yn unol ag argymhellion adroddiad Dr Simon Brooks ar ail gartrefi.
  • Datblygu cynllun Arfor fyddo’n hybu’r iaith a datblygu’r economi yng nhadarnleoedd y Gymraeg.
  • Ehangu’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Cryfhau statws yr iaith yn y sector breifat.

Ac yn olaf a chwbl ddigost-

  • Cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y Senedd, gan gynnwys arweinyddion a gweinidogion.

YMATEB DYFODOL I GYNLLUNIAU’R LLYWODRAETH AR AIL GARTREFI

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi sy’n tanseilio hyfywedd yn Gymraeg mewn cymaint o gymunedau. Mae’r mudiad yn pwysleisio, fodd bynnag, bod rhaid i gynllun y Llywodraeth bennu ail gartrefi fel dosbarth defnydd, sef rhywbeth sydd ddim yn gallu digwydd ar hyn o bryd.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Gobeithiwn bydd y cynllun peilot yn sefydlu cam ymlaen, ond os am wneud hynny, mae’n rhaid, yn unol ag argymhelliad Dr Simon Brooks, gosod ail gartrefi fel dosbarth defnydd newydd fel rhan o unrhyw dreial. Yn dilyn hynny, byddai modd gosod cyfyngiadau ar droi tai annedd yn ail gartrefi ac yn y pen draw cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi yn y cymunedau rheiny lle mae’r broblem ar ei gwaethaf.”

Yn y cyfamser, mae Dyfodol hefyd yn galw ar y Llywodraeth i fabwysiadu ymateb cynhwysfawr i’r broblem, gan gynnwys bwrw ymlaen ar fyrder gyda chynlluniau tai cymdeithasol ac ecwiti i gynorthwyo pobl leol i brynu tai yn eu cymunedau.