YR ERGYD DDIWEDDARAF? DYFODOL YN CONDEMNIO BYGYTHIADAU I’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Yn dilyn cyfres o ergydion i wariant ar y Gymraeg yn ddiweddar, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn â’r bygythiadau posib i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sgil cyllideb ddrafft  y Llywodraeth.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Mae cyllideb ddrafft diweddaraf y Llywodraeth wedi dangos yn glir y diffyg parch a sylw a roddir i’r Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cynrychioli bygythiad arall: y tro hwn yn erbyn corff sydd wedi gwneud cymaint i ddatblygu a hyrwyddo addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau.

Cawn yma sefyllfa cwbl hurt lle mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei fygwth, tra bo’r Llywodraeth yn berffaith hapus i barhau i wario ar gefnogi myfyrwyr Cymru i astudio yn Lloegr.

Edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r Llywodraeth a’r Corff ariannu Addysg Uwch.”

GOFYN AM ESBONIAD GAN Y GWEINIDOG ADDYSG

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn i’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis,  egluro ei agwedd tuag at Strategaeth Addysg Gymraeg y Llywodraeth. Mae hyn yn dilyn ei ymateb i’r Comisiynydd Iaith, Meri Huws, pan ddywedodd nad oes angen bod yn glwm wrth ffigurau.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae angen i’r Gweinidog Addysg ddweud yn glir beth yw ei farn am Strategaeth Addysg Gymraeg ei Lywodraeth ei hun.  Mae’r Strategaeth yn nodi targedau penodol ynglŷn â thwf addysg Gymraeg, ond nid yw’r Gweinidog fel pe bai’n poeni am hyn.”

“Tybed ydy’r Gweinidog wedi ymygynghori gyda’r Prif Weinidog am hyn, sydd hefyd yn gyfrifol am yr iaith?”

“Mae’r Gweinidog Addysg yn honni y bydd y cwricwlwm newydd yn newid ein ffordd o feddwl am addysg Gymraeg.  Ydy hyn yn golygu diwedd ysgolion Cymraeg?  Yng Nghymru, bu pob cynnig ar ddysgu’r Gymraeg mewn dosbarthiadau dwyieithog yn fethiant o’u cymharu â dosbarthiadau Cymraeg.  Mae angen i Huw Lewis ddweud yn glir beth yw ei fwriadau.”

Mae Dyfodol yn gweld twf addysg Gymraeg yn un o’r elfennau pwysicaf yn adfywiad y Gymraeg, ac mae digon o dystiolaeth bod rhieni Cymru’n galw am hyn.

Popeth Cymraeg yn Esiampl i Gymru

Mae angen rhwydwaith o ganolfannau dysgu Cymraeg i oedolion tebyg i rai Popeth Cymraeg.  Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith, wrth i newidiadau yn nhrefn cyllido Cymraeg i Oedolion gael ei sefydlu. Mae Popeth Cymraeg wedi sefydlu canolfannau dysgu yn Ninbych, Llanrwst, Prestatyn a Bae Colwyn.

“Mae cael rhwydwaith o ganolfannau cymdeithasu a dysgu Cymraeg yn allweddol i roi cyfleoedd siarad ac i ddod â siaradwyr, dysgwyr a phobl ifanc at ei gilydd,” medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Ychwanegodd, “Mae Ioan Talfryn a’i swyddogion wedi dangos dewrder a menter wrth sefydlu eu canolfannau.  Maen nhw wedi cael cefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych a’r Loteri Genedlaethol.  Maen nhw’n cynnig model ardderchog i’w efelychu ledled Cymru.”

Meddai, “Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd trefn newydd cyllido Cymraeg i Oedolion yn dal i roi’r un gefnogaeth i’r canolfannau hyn ag yn y gorffennol, gan gynnig patrwm o gydweithio creadigol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £1.25 miliwn i sefydlu canolfannau i hyrwyddo’r Gymraeg, ac mae datblygiadau ar y gweill yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Wrecsam.

Meddai Mr Gruffudd, “Rydyn ni’n gobeithio hefyd y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda sefydliad Popeth Cymraeg, a gyda chanolfannau eraill sydd eisoes yn bod, fel Saith Seren Wrecsam, fel bod cydlynu call yn digwydd rhwng Llywodraeth ganol, Cymraeg i Oedolion, a’r canolfannau Cymraeg unigol.”