CYFARFOD Â CHADEIRYDD GRŴP TRAWSBLEIDIOL YR IAITH GYMRAEG

Cawsom gyfarfod calonogol ac adeiladol gyda Jeremy Miles, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg yr wythnos hon.

Testun y drafodaeth oedd addysg Gymraeg – mater sy’n gwbl allweddol i lwyddiant Strategaeth y Gymraeg, a blaenoriaeth brys ar gyfer cynllunio tuag at gynnydd. Dyma fu ein prif neges, yn ogystal â phwysigrwydd gwella ansawdd ac ymrwymiad Cynlluniau Strategol y Gymraeg yr awdurdodau addysg lleol, gan sicrhau eu bod yn ymateb yn ystyrlon at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Pwysleisiwyd mai canolbwyntio ar greu ysgolion Cymraeg a symud tuag at newid cyfrwng ysgolion i’r Gymraeg fyddai’n arwain at y canlyniadau gorau o safbwynt sicrhau siaradwyr y dyfodol

Yn unol â neges gyson Dyfodol, pwysleisiwyd yn ogystal bod rhaid i unrhyw gynllunio digwydd yng nghyd-destun hyrwyddo defnydd eang o’r iaith. Mewn perthynas ag addysg, byddai’r cyd-destun hwn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o fanteision y Gymraeg, yn ogystal â sicrhau gweithlu digonol o athrawon cymwys ac ymroddgar.

Edrychwn ymlaen at drafod gofynion addysg ymhellach ymlaen y mis hwn gyda’r Ysgrifennydd Addysg a Gweinidog y Gymraeg.

Y GYMRAEG: TU HWNT I FFINIAU’R YSGOL

Sion Aled

Diolch i bawb a ddaeth draw i Ganolfan Arad Goch yn Aberystwyth i’n Cyfarfod Cyhoeddus; gobeithiwn i chwi gael amser difyr a thestun meddwl.

Cawsom gyflwyniad hynod ddifyr a diddorol gan Siôn Aled Owen; Y Gymraeg: Tu Hwnt i Ffiniau’r Ysgol. Roedd y cyflwyniad hwn yn seiliedig ar ei ymchwil pwysig i’r defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ddisgyblion ysgolion Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.

Er bod ymateb y plant a’r bobl ifanc i’r Gymraeg yn hynod gadarnhaol, dywed Dr Owen bod rhaid gweithredu ar fyrder i droi’r ewyllys da’n wirionedd. Rhaid gwneud llawer mwy o safbwynt creu cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg ac ennyn hyder i’w defnyddio o ddydd i ddydd. Dengys yr ymchwil nad gorfodi yw’r ateb, ond yn hytrach newid ymddygiad, gan adnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan y teulu (a’r teulu estynedig) a’r cyfryngau.

Roeddem yn falch iawn o glywed fod yr ymchwil hwn yn cadarnhau un o negeseuon sylfaenol Dyfodol; sef bod angen i bolisi iaith ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, a chyda hyder a balchder. Dengys ymchwil Siôn Aled Owen bod y sylfaen mewn lle o safbwynt ewyllys, ond i’r Llywodraeth fwrw ymlaen i adeiladu arni.

DYFODOL YN GALW AM YMCHWILIAD BRYS I YMRWYMIAD AWDURDODAU ADDYSG I DDATBLYGU YSGOLION GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw ar Weinidog y Gymraeg i ymchwilio ar fyrder i ddiffyg ymrwymiad rhai awdurdodau lleol i wella a datblygu ysgolion Cymraeg o fewn eu siroedd. Daw’r galw hwn yn sgil ymateb a gafwyd gan Swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg i ymholiad Dyfodol ynglŷn â dyraniad cyllid Ysgolion y 21ain Ganrif i ysgolion Cymraeg fesul sir.

Yn ôl Swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg, mae chwech o siroedd, sef Blaenau Gwent, Fflint, Merthyr Tudful, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam, i gyd wedi dewis dyrannu 5% neu lai o’r cyllid ar ysgolion Cymraeg.

Gyda’i gilydd gwariodd y siroedd hyn £286,750,000.00 – mwy na chwarter biliwn o bunnoedd – ar fuddsoddi mewn ysgolion, ond dim ond £2,726,636 ar ysgolion Gymraeg.  Gwariodd y Rhondda Cynon Taf £159,291,853 ar ysgolion Saesneg a dim ond £798,147 ar ysgolion Cymraeg.

Ni wariodd Blaenau Gwent, Fflint a Merthyr Tudful ddim ar ysgolion Cymraeg ond gwarion nhw £103,450,000 ar ysgolion Saesneg.

Gan mai’r awdurdodau eu hunain sydd yn pennu’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn, mae’n hynod arwyddocaol bod y 6 awdurdod yn gwario dim, neu’n agos i ddim, o’r arian ar addysg Gymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’r ffigyrau hyn yn adlewyrchiad truenus o’r diffyg ymrwymiad sy’n bodoli mewn rhai ardaloedd tuag at ffyniant y Gymraeg. O’r cychwyn, rydym ni fel mudiad wedi bod yn feirniadol o Gynlluniau’r Gymraeg mewn Addysg, a hynny o safbwynt ansawdd rhai o’r Cynlluniau unigol, a’r awydd gwleidyddol i arwain ar eu datblygiad.

Gyda Strategaeth y Gymraeg yn anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae pawb yn gytûn na ellir gobeithio cyrraedd y nod heb ymrwymiad cadarn i ddatblygu addysg Gymraeg. Mae’r sefyllfa bresennol yn golygu fod yr holl waith dan fygythiad enbyd o’r cychwyn.

Rydym yn galw ar y Gweinidog fynd i’r afael â’r sefyllfa ar fyrder, a chynnal ymchwiliad llawn a manwl i fethiant yr awdurdodau hyn i gyfrannu at weledigaeth y Llywodraeth.”

Er gwybodaeth:

Trwy Gymru gyfan gwariwyd £1,497,726,000 ar ysgolion.

Roedd £441,405,602 (29.5%) ar ysgolion Cymraeg.

Y ffigurau am y chwe sir:

Blaenau Gwent                Gwariant: £20,500,000   Ar ysgolion Cymraeg: £0 = 0%

Fflint                                    Gwariant: £64,200,000  Ar ysgolion Cymraeg: £0 = 0%

Merthyr Tudful                  Gwariant: £19,000,000  Ar ysgolion Cymraeg £0 = 0%

Mynwy                                Gwariant: £93,400,00   Ar ysgolion Cymraeg £1,000,000 = 1%

Rhondda Cynon Taf         Gwariant: £160,000,000  Ar ysgolion Cymraeg: £708,147 = 0.5%

Wrecsam                            Gwariant: £22,300,000  Ar ysgolion Cymraeg: £1,018,489 = 5%