Ydych chi’n adnabod adar yr ardd?

Aderyn y To

Aderyn y To

Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB yw arolwg bywyd gwyllt yr ardd mwyaf y byd, ac mae’n rhoi cipolwg o sut mae adar yr ardd yn ymdopi yn y Deyrnas Unedig. http://www.gwerin.com

Yn 2022, roedd dros 36,269 o bobol wedi cymryd rhan ym mhob cwr o Gymru, gan gyfri dros 712,641 o adar.

Gan fod adar nawr yn wynebu cynifer o heriau o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd a natur, mae pob cyfrif yn bwysig.

Mae arolwg bywyd gwyllt yr ardd mwyaf y byd yn ei ôl wrth i filoedd o bobol wylio a chyfrif adar yng ngerddi Cymru dros y penwythnos olaf ym mis Ionawr ar gyfer digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB.

Eleni, mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar Ionawr 27, 28 a 29, ac mae gofyn i bobol dreulio awr yn gwylio ac yn cofnodi’r adar yn eu gardd, ar eu balconi neu yn euarc lleol, ac anfon eu canlyniadau i’r RSPB.

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn 44 oed eleni.

Gan ddechrau yn 1979, mae wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol poblogaidd, sy’n helpu i roi cipolwg gwerthfawr i’r RSPB o sut mae adar yr ardd yn ymdopi yn y Deyrnas Unedig.

Dros y cyfnod hwnnw, mae 172m o adar wedi cael eu cyfrif, ac mae bron i 11m o oriau wedi cael eu treulio yn gwylio adar yr ardd.

‘Cyfrannu at y darlun blynyddol’

“Drwy gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd, rydych chi’n cyfrannu at ein darlun blynyddol o sut mae ein hadar yn ymdopi ar hyd a lled Cymru,” meddai Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru.

“Dim ond wrth inni ddeall sut mae ein bywyd gwyllt yn ymdopi y gallwn ni ei amddiffyn. Gwyddom fod byd natur mewn argyfwng ond gyda’n gilydd gallwn gymryd camau i ddatrys y problemau hyn.

“Ymunwch â ni ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd 2023 a gyda’n gilydd, gadewch i ni weithredu i warchod a diogelu ein hadar a’n bywyd gwyllt am genedlaethau i ddod.

“Mae awr o’ch amser yn golygu cymaint i’r natur sydd ar garreg eich drws.”

Aderyn y to sy’n dal ar frig rhestr Gwylio Adar yr Ardd gan mai dyma’r aderyn sy’n cael ei weld amlaf mewn gerddi yng Nghymru.

Y Ddrudwen sydd yn yr ail safle a’r Titw Tomos las yn y trydydd safle.

Dros bedwar degawd mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd wedi bod yn tynnu sylw at adar yr ardd sy’n gwneud yn dda a’r rheini nad ydynt yn gwneud cystal ledled y Deyrnas Unedig.

Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf i dynnu sylw’r RSPB at y gostyngiad yn niferoedd y fronfraith, sy’n 81% rhyfeddol yn is nag adeg cynnal Gwylio Adar yr Ardd am y tro cyntaf yn 1979.

Roedd y rhywogaeth hon yn gyfforddus yn y 10 uchaf yn 1979, ond erbyn 2009 roedd ei niferoedd ar draws y Deyrnas Unedig lai na hanner y nifer gafodd eu cofnodi yn 1979.

Sut i gymryd rhan

I gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd 2023, gwyliwch yr adar yn eich gardd, ar eich balconi neu mewn man gwyrdd lleol am awr ar ryw adeg dros y tri diwrnod.

Dim ond y rheini sy’n glanio y dylech eu cyfrif, nid y rheini sy’n hedfan drosodd.

Cofnodwch y nifer fwyaf welwch chi o bob rhywogaeth o adar ar unrhyw un adeg – nid y cyfanswm welwch chi yn ystod yr awr.

Mae hi’n bosibl cofrestru nawr – i gael eich canllaw Gwylio Adar yr Ardd am ddim, sy’n cynnwys siart adnabod adar, awgrymiadau gwylio adar, taleb ar gyfer siop yr RSPB, a chyngor ar sut mae denu bywyd gwyllt i’ch gardd, ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch.

Bydd y digwyddiad sy’n cyd-redeg â hwn – Gwylio Adar yr Ysgol RSPB – yn cael ei gynnal yn ystod hanner cyntaf tymor y gwanwyn, rhwng Ionawr 6 a Chwefror 20.

Yn 2021, roedd dathliadau i nodi 20 mlynedd ers dechrau cysylltu plant â byd natur ar dir ysgolion.http://www.gwerin.com

Ers ei lanshttp://www.gwerin.comio, mae dros filiwn o blant ysgol ac athrawon wedi cymryd rhan.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.rspb.org.uk/schoolswatch

Barn Dyfodol i’r Iaith ar Gyllideb Llywodraeth Cymru – colli cyfle euraidd

Colli cyfle euraidd – dyna farn Dyfodol i’r Iaith ar Gyllideb Llywodraeth Cymru. A’r Llywodraeth yn gyfrifol am wario £18 biliwn yn y flwyddyn i ddod, mae’r gwariant ar brosiectau i adfywio’r Gymraeg fel pe baent yn drychinebus o brin o’r angen.

Mae Dyfodol i’r Iaith eisoes wedi galw am wariant cyfalaf o £200 miliwn i’w rannu rhwng pum o siroedd Cymru i ddatrys argyfwng tai preswyl ac ail gartrefi. Nid yw cynigion presennol y Llywodraeth i ariannu Arfor ac i adeiladu tai cymdeithasol yn dod yn agos at yr angen.

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi gofyn am roi blaenoriaeth i hyfforddi athrawon ac i ddysgu’r iaith i athrawon.  Nid oes arwydd, medd Dyfodol i’r Iaith, fod y gyllideb newydd yn mynd i roi’r hwb cwbl angenrheidiol yn y maes yma.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’r angen am drawsnewid y farchnad dai yn ein cymunedau mwy Cymraeg wedi bod yn glir ers tro, ac mae’r Llywodraeth wedi derbyn hyn.  Bydd y gyllideb hon yn anffodus yn parhau’r argyfwng.”

“Mae’r Llywodraeth hefyd yn gwybod bod argyfwng ar ddigwydd o ran darparu staff â sgiliau iaith digonol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.  Cafodd IRALE yng Ngwlad y Basgiaid gyllideb o £25 miliwn y flwyddyn i ddysgu’r iaith i athrawon, a dysgwyd yr iaith i ryw 1,000 o athrawon y flwyddyn mewn cyrsiau amser llawn dros chwarter canrif.

“Os ydyn ni o ddifri am drawsnewid yr iaith yn ysgolion Cymru, mae’n rhaid cael rhaglen gyfatebol i un Gwlad y Basgiaid.”

CAMAU I’R CYFEIRIAD IAWN

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu’r cytundeb cydweithio a gyhoeddwyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Mae’r mudiad yn falch o nodi bod ymrwymiad i dwf y Gymraeg yn cael ei ategu yn y ddogfen a’i bod yn cynnwys nifer o gamau cadarnhaol i’r cyfeiriad iawn o safbwynt polisïau’n ymwneud â’r Gymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’n dda gweld fod y cytundeb yn cynnwys nifer o fesurau sy’n mynd i’r afael â sicrhau ffyniant y Gymraeg a bod hyn, fe ymddengys, yn rhan o’r weledigaeth ehangach ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Croesawn y cadarnhad ynglŷn â chymryd y broblem ail gartrefi o ddifrif ac, wrth gwrs, y cynigion o safbwynt ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau sylw dyledus i hanes Cymru o fewn y Cwricwlwm.

Mae yma hefyd ddatblygiadau sy’n allweddol i gefnogi ffyniant y Gymraeg; Cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, er enghraifft yn ogystal â’r bwriad i ehangu prosiect Arfor a’r pwyslais ar ddiwylliant a darlledu cynhenid. Afraid dweud, cefnogwn yn ogystal y bwriad i ehangu ac ystwytho Safonau’r Gymraeg a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg.

Wrth groesawu hyn oll, fodd bynnag, rhaid bod yn wyliadwrus nad ewyllys da a geiriau teg a gynrychiolir gan y ddogfen. Rhaid mynnu ar lefel ddigonol o gyllid, adnoddau ac ymrwymiad ar gyfer pob un o’r mesuriadau sy’n addawol i’r Gymraeg.”