Y GYMRAEG: TU HWNT I FFINIAU’R YSGOL

Sion Aled

Diolch i bawb a ddaeth draw i Ganolfan Arad Goch yn Aberystwyth i’n Cyfarfod Cyhoeddus; gobeithiwn i chwi gael amser difyr a thestun meddwl.

Cawsom gyflwyniad hynod ddifyr a diddorol gan Siôn Aled Owen; Y Gymraeg: Tu Hwnt i Ffiniau’r Ysgol. Roedd y cyflwyniad hwn yn seiliedig ar ei ymchwil pwysig i’r defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ddisgyblion ysgolion Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.

Er bod ymateb y plant a’r bobl ifanc i’r Gymraeg yn hynod gadarnhaol, dywed Dr Owen bod rhaid gweithredu ar fyrder i droi’r ewyllys da’n wirionedd. Rhaid gwneud llawer mwy o safbwynt creu cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg ac ennyn hyder i’w defnyddio o ddydd i ddydd. Dengys yr ymchwil nad gorfodi yw’r ateb, ond yn hytrach newid ymddygiad, gan adnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan y teulu (a’r teulu estynedig) a’r cyfryngau.

Roeddem yn falch iawn o glywed fod yr ymchwil hwn yn cadarnhau un o negeseuon sylfaenol Dyfodol; sef bod angen i bolisi iaith ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, a chyda hyder a balchder. Dengys ymchwil Siôn Aled Owen bod y sylfaen mewn lle o safbwynt ewyllys, ond i’r Llywodraeth fwrw ymlaen i adeiladu arni.

DYFODOL YN GALW AM AILWAMPIO CYNLLUNIAU ADDYSG GYMRAEG Y SIROEDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan anfodlonrwydd gydag Cynlluniau Addysg Gymraeg y siroedd, ac yn galw am ailwampio neu wrthod 18 o’r 22 Cynlluniau Strategol mewn Addysg (CSGA), gan eu bod yn fyr o’r nod.

Mae’r mudiad felly’n croesawu penodiad Aled Roberts i wneud arolwg gwrthrychol o’r holl Gynlluniau Strategol mewn Addysg fel cam ymlaen.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Yn ogystal â herio’r Cynlluniau, byddwn yn galw am fformat newydd i’r CSGA, a fydd yn blaenoriaethu twf niferoedd y plant 5 oed mewn addysg Gymraeg, yn hytrach na 7 oed fel ar hyn o bryd.”

“Byddwn yn dymuno targedau ehangach, ar gyfer y 10 mlynedd nesaf, ac nid 3 fel ar hyn o bryd.”

“Yn olaf, maen hanfodol bod y Cynlluniau hyn yn nodi sut y caiff rhagor o ysgolion Cymraeg eu sefydlu, a pha gymorth sydd ei angen gan Lywodraeth ganol i wneud hyn.”

DYFODOL YN GALW AM WARCHOD CYRSIAU TGAU CYFRWNG CYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar y Llywodraeth i fynnu fod Cymwysterau Cymru yn sicrhau bod pob pwnc sydd ar gael trwy’r Saesneg yn ysgolion Cymru hefyd ar gael trwy’r Gymraeg.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhyfeddu bod Cymwysterau Cymru, corff rheoleiddio cymwysterau Cymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, heb sicrhau bod Seicoleg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Medd Eifion Lloyd Jones, “Mae ystyried y Gymraeg yn ganolog i ddyletswyddau Cymwysterau Cymru.  Dylen nhw, o wybod bod prif gorff arholi Cymru (CBAC) yn dileu Seicoleg fel pwnc, sicrhau bod y pwnc yn cael ei gynnig gan ddarparwr arall.”

“Os na wneir hyn ar fyrder, yna bydd Seicoleg yn ymuno gydag Economeg fel pwnc fydd yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Saesneg yn unig yng Nghymru’r flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Eifion Lloyd Jones, “Gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi nifer o ddarlithwyr newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i addysgu’r pynciau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n gwbl hurt bod Cymwysterau Cymru’n mynd ati i sicrhau na fydd myfyrwyr bellach ar eu cyfer.

 

“Mae hyn niweidiol iawn i ddatblygiad y Gymraeg mewn addysg uwchradd ac uwch.  Byddwn yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i fynnu fod Cymwysterau Cymru’n trin y Gymraeg o leiaf mor ffafriol â’r Saesneg, a byddwn hefyd yn apelio ar CBAC i adfer y pynciau y mae am beidio â’u darparu.”