YMATEB I STRATEGAETH IAITH Y LLYWODRAETH

Mae’r strategaeth yn hynod uchelgeisiol o ran cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg.  Pe bai hyn wedi bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth o’r cychwyn, bydden ni ar ein ffordd i weld y Gymraeg yn dod yn iaith arferol to newydd o siaradwyr.

Mae Thema 1 y Strategaeth yn glodwiw. Mae’n cynnwys rhoi pwyslais ar drosglwyddo’r iaith o fewn y teulu – carreg sylfaen unrhyw gynllunio ieithyddol.  Mae pwyslais ar y blynyddoedd cynnar, ac yna ar weld addysg Gymraeg yn cynyddu’n sylweddol.  Yr ail Thema yw’r Gymraeg yn y gweithle, a defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.  Unwaith eto, mae hyn yn gwbl briodol.  Mae Thema 3 hefyd yn nodi meysydd allweddol a sylfaenol, sef y gymuned a’r economi, a chynllunio ieithyddol eang.

Oes lle i ni amau unrhyw beth?  Rydyn ni am ganmol y  Strategaeth, ond oes modd gwneud hyn yn ddi-gwestiwn?  Yn y glo mân mae’r amheuon yn codi.

Mae adran ‘Cymuned a’r economi’ yn nodi uchelgais, ond mae’n hynod brin o awgrymu camau gweithredu.  Mae’n sôn am gynllunio tir, ond mae’n rhyfeddol nad oes yma un sôn, hyd y gwelwn, am gynllunio tai, ac mae hyn yn bwnc llosg y mae’n rhaid ei wynebu. Yn y Rhaglen Weithredu sy’n cydredeg â’r Strategaeth mae sôn am gyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20, sy’n ymwneud â Chynllunio a’r iaith Gymraeg, ond nid oes yma drafodaeth am le’r awdurdod cynllunio, a sut y gall siroedd bennu targedau ieithyddol hyfyw yn rhan o’u cynlluniau datblygu lleol.  Dyma fwlch mawr.

Mae adran ar ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn oleuedig o ran egwyddorion, ond mae’n brin o nodi cynlluniau ymarferol i gyrraedd y nod.  Er bod y Llywodraeth wedi cefnogi sefydlu Canolfannau Cymraeg yn y gorffennol, nid oes awgrym am gefnogaeth bellach i hyn.  Yn ein barn ni mae creu canolfannau hybu’r iaith mewn pentrefi a threfi ledled Cymru’n hanfodol, ac mae modd mynd i’r afael â hyn yn ddychmygus, gan gyfrannu at sefydliadau sydd eisoes yn bod er mwyn iddynt ddatblygu’n Ganolfannau Cymraeg, yn ôl natur yr ardal a wasanaethir ganddynt.

Mae’n dda gweld bod awydd cael mwy o gyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 14-19 oed i ddefnyddio’r Gymraeg.  Mae angen bod yn wyliadwrus yma, gan fod angen mawr am hyn ymysg rhai sy’n mynychu ysgolion Cymraeg, cyn ceisio taenu’r menyn yn rhy denau ar ysgolion Saesneg.

Mae rhan helaeth o’r strategaeth yn ymwneud â chynyddu’r Gymraeg yn y byd addysg.  Mae hyn eto’n glodwiw, ond mae anawsterau gweithredu’n codi ar unwaith. Cafodd cadeirydd Dyfodol i’r Iaith gyfarfod â swyddogion addysg Abertawe, ddeuddydd ar ôl cyhoeddi’r strategaeth.  Daeth yn amlwg nad oeddynt yn ymwybodol o’r Strategaeth.  Ymhellach, roedd disgwyl iddynt, fel pob awdurdod arall, gyflwyno ceisiadau am gyllid gan y llywodraeth i ddatblygu ysgolion – Cyllid Ysgolion yr 21ain ganrif – erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni.  Mae £600 miliwn o gyllid ar gael.  Ond roedd rhaid i’r ceisiadau gan bob awdurdod yng Nghymru gael eu cyflwyno cyn i’r Llywodraeth gymeradwyo eu cynlluniau ar gyfer y Gymraeg mewn addysg.  Daeth yn amlwg nad oedd cyswllt rhwng y Strategaeth, Cynlluniau’r Gymraeg mewn Addysg, a chyllid Ysgolion yr 21ain ganrif.  Mae’r cyllid yma’n ymwneud â datblygiadau rhwng 2019-2024.  Mae’n debygol iawn, os aiff y rownd yma ymlaen, na fydd cyllid yn cael ei bennu yng ngoleuni’r Strategaeth tan y rownd nesaf, sef wedi 2024, a dyna golli 7 mlynedd.

Dyna pam mae Dyfodol i’r Iaith wedi gofyn i’r Llywodraeth ohirio’r broses gyllido hon am chwe mis, er mwyn i awdurdodau lleol allu mabwysiadu gweledigaeth y Llywodraeth o dwf cyflym addysg Gymraeg.  Heb hyn, mae popeth fel y bu, a’r Strategaeth yn siŵr o fethu yn ei thargedau.

Mae un anhawster sylfaenol y tu ôl i’r Strategaeth, wrth gwrs, sef diffyg cyllid.  Os yw’r Llywodraeth am weld symud cyflym o ran cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, mae’n rhaid wrth fuddsoddi sylweddol i hyfforddi athrawon, ac i ailwampio ysgolion.  Caiff peth cyllid ei roi gan y Llywodraeth yn awr i gyflwyno cyrsiau blwyddyn o ddysgu iaith i athrawon, ond mae hyn yn gyfyngedig, ac yn brin iawn o allu dod yn agos at gyflawni’r targedau twf.

Mae angen holi a gafodd y Llywodraeth ei dallu gan y sôn am filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac am drawsnewid y system ysgolion Saesneg, er cymaint yr angen am hynny.  Er bod yr amcanion yn glodwiw, mae ofn bod y cyfan yn afrealistig.  Gall y breuddwyd droi’n hunllef yn gyflym.  I gyrraedd y nod o filiwn, bernir bod angen 50% o blant 7 oed Cymru mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.  Mae hyn yn golygu cynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg o 400 i 800.  I wneud hyn bydd angen tua 6000 i 8000 o athrawon Cymraeg ychwanegol.  O wybod bod nifer y darpar athrawon yn lleihau ar hyn o bryd, mae angen cael synnwyr o realiti.

Mae’n glir i ni bod angen i ni gael polisïau realistig a chyraeddadwy, a dechrau wrth ein traed, a hyn ym mhob maes.  Y gwir yw bod angen sefydlu Awdurdod Iaith grymus a fydd yn llunio cynllun iaith cenedlaethol sy’n mapio’n fanwl sut mae cyrraedd gwahanol amcanion, gan sicrhau bod cydlynu agos yn digwydd rhwng pob adran o’r Llywodraeth.  I gyflawni hyn bydd angen cyllid nid ansylweddol.

Digwyddiadau’r Eisteddfod 2017

Dewch draw i’n stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni; Rhaglen lawn o sgyrsiau ac adloniant!

DYDD LLUN AWST 7 am hanner dydd ar y stondin: Hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r wasg ac yn y gymuned – MENNA BAINES 3 y.p:  GWILYM BOWEN RHYS

DYDD MAWRTH AWST 8 am hanner dydd ar y stondin: Hyrwyddo’r Gymraeg drwy Chwaraeon – OSIAN ROBERTS AC IAN GWYN HUGHES 3 y.p. YNYR LLWYD

DYDD MERCHER AWST 9 am 11 y.b. yn Mhabell y Cymdeithasau 1: Cynllunio a’r Gymraeg – cyflwyniad gan HUW PRYS JONES 3 y.p: TWM MORYS A GWYNETH GLYN

DYDD IAU AWST 10 am hanner dydd ar y stondin: Hyrwyddo’r Gymraeg ar gan – CEFIN ROBERTS  3 y.p.:GLAIN RHYS

DYDD GWENER AWST 11 am hanner dydd ar y stondin: Hyrwyddo’r Gymraeg drwy awgrymiadau o du ymchwil –  yr ATHRO ENLLI THOMAS 3 y.p.: MEINIR GWILYM

 

GALW AM OEDI ARIANNU YSGOLION OHERWYDD PERYGL I DWF ADDYSG GYMRAEG

Caiff datblygiad addysg Gymraeg ei rwystro tan 2024 heb obaith i’r Llywodraeth gyrraedd ei nod o 30% o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.  Dyna ofn Dyfodol i’r Iaith wrth i Awdurdodau Lleol gyflwyno ceisiadau am gyllid erbyn diwedd Gorffennaf.

Mae ceisiadau am gyllid y Llywodraeth i ddatblygu ysgolion i fod i’w cyflwyno’n fuan, ac awdurdodau am gyflwyno’u ceisiadau erbyn diwedd Gorffennaf, a chael dyfarniad erbyn yr hydref.  Cyllid ail rownd Cyllid Ysgolion yr 21ain ganrif yw hyn, sy’n rhoi arian i ddatblygu ysgolion o 2019-2024.  Mae £600 miliwn ar gael gan y Llywodraeth ac mae disgwyl i awdurdodau lleol gyfrannu’r un swm.

Pryder Dyfodol i’r Iaith yw bod y cyllid hwn i gael ei ddosbarthu cyn i lawer o Gynlluniau Datblygu Addysg Gymraeg awdurdodau lleol gael eu derbyn gan y Llywodraeth.  Pryder arall yw nad yw hyn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth, a gyhoeddwyd wythnos yn ôl.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae lle mawr i ofni nad yw gwahanol adrannau’r Llywodraeth yn cydweithio.  Mae’n glir i ni fod awdurdodau lleol yn paratoi eu cynlluniau heb fod eu Cynlluniau Addysg Gymraeg wedi cael eu derbyn, ac yn amlwg heb iddynt gael unrhyw gyfle i ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”

“Canlyniad hyn yw y bydd ceisiadau am arian yn cael eu cyflwyno heb fod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cynghorau.  Yn rownd cyntaf Cyllid Ysgolion yr 21ain, gwariodd rhai cynghorau y nesaf peth i ddim ar addysg Gymraeg.  Gall hyn ddigwydd eto.”

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i oedi proses gyllido ail rownd Ysgolion 21ain ganrif, ac yn gofyn i’r broses hon gael ei chlymu wrth Gynlluniau Addysg Gymraeg y Siroedd ac wrth Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”