DYFODOL YN GALW AM DREFN GADARN I ASESU EFFAITH DATBLYGIADAU TAI AR Y GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ategu drachefn y galw am well sylw i’r Gymraeg wrth benderfynu ar faterion cynllunio. Mae’r mudiad yn ymwybodol bod cartrefi Redrow, sy’n gyfrifol am ddatblygiad Goetre Uchaf, ym Mangor, yn marchnata’r cartrefi newydd yn uniongyrchol at brynwyr tu allan i Gymru. Mae un o’r hysbysebion uniaith Saesneg yn annog “symud i Ogledd Cymru”,  gan ganmol adnoddau naturiol yr ardal.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’r strategaeth farchnata hon yn dangos yn glir y farchnad darged ar gyfer datblygiadau o’r math, ac yn cadarnhau ein pryder ynglŷn â chymeradwyaeth diweddar Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ddatblygiad arall o 336 o dai ym Mhen y Ffridd. Clustnodwyd nifer fechan o dai yng Nghoetre Uchaf fel unedau fforddiadwy, ond heb fframwaith asesu digonol i ystyried yr oblygiadau ieithyddol, esgus yw hyn yn y bôn. Byddwn yn pwyso drachefn am strwythur a methodoleg gadarn a grymus i asesu gwir effaith datblygiadau o’r math ar y Gymraeg.“

DYFODOL YN COLLFARNU’R CASGLIADAU’R LLYWODRAETH AR DDATBLYGIAD PEN Y FFRIDD

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gresynu y bod Llywodraeth Cymru ar fin caniatáu datblygiad o 336 o dai newydd ym Mhen y Ffridd, Penrhosgarnedd, Bangor. Cyhoeddwyd hyn er waethaf gwrthwynebiad lleol a sirol, yn ogystal ag asesiad annibynnol sy’n dod i’r casgliad y byddai’r datblygiad yn niweidiol i’r Gymraeg yn ardal Penrhosgarnedd a hwnt.

Dengys yr achos nad yw buddiannau’r Gymraeg yn cael blaenoriaeth ddigon uchel, ac ym marn Dyfodol, mae’n ddadl bellach dros yr angen i’r Gymraeg gael rôl statudol gryfach ym maes cynllunio

CYFARFOD GWEINIDOG Y GYMRAEG 31/01/17

Cafwyd bore buddiol gydag Alun Davies a’i swyddogion, fore Gwener 31 Ionawr.  Dyma rai o’r materion a drafodwyd a pheth o’r ymateb a gawson ni:

Strategaeth Iaith y Llywodraeth

Roedd cytundeb bod angen cael mwy o sylw ar y Gymraeg yn gymunedol.

Sonion ni am fewnddyfodiaid, cynllunio tai, addysg, dysgu’r Gymraeg i oedolion, iaith y stryd fawr a iaith gwaith fel elfennau i gael sylw.

Asiantaeth y Gymraeg

Bydd gan y Llywodraeth £2 filiwn i’w wario eleni, ond nid oes cytundeb am arian y flwyddyn nesaf. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi Papur Gwyn ar gyfer bil / mesur iaith newydd, a bydd lle yno i sefydlu Asiantaeth.  Roedd Alun Davies yn ffafrio asiantaeth hyd braich.  O gael llwyddiant gyda gweithgareddau a ddaw yn sgil gwario £2 filiwn eleni, y gobaith yw cael Asiantaeth y Gymraeg yn sefydlog, gyda’r posibilrwydd o dyfu’n gorff ehangach a fydd yn gallu pontio gwaith  gwahanol adrannau’r Llywodraeth.  Ceir datganiad ar y Bil cyn y Nadolig yn dilyn ymgynghoriad ar y Papur Gwyn.

Cafwyd croeso i bwyntiau hyrwyddo y sonion ni amdanyn nhw, y gellid gweithredu arnyn nhw eleni:

  • Hyrwyddo addysg Gymraeg
  • Hyrwyddo’r Gymraeg ymysg darpar rieni
  • Ehangu datblygiad Canolfannau Cymraeg i gynnwys caffis / tafarnau mewn pentrefi a threfi llai
  • Gwobrwyo sefydliadau o bob sector am eu defnydd o’r Gymraeg
  • Cynnal ymgyrch hyrwyddo barhaus gyda chaffis, tafarnau a siopau, a’u cael i arddangos arwydd bod croeso i gwsmeriaid ddefnyddio’r Gymraeg
  • Cynnig gwasanaeth cyfieithu rhad

Meddai swyddogion y Llywodraeth bod y Llywodraeth ar hyn o bryd yn  gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Mentrau Iaith i gynnal peilot i hyrwyddo’r Gymraeg mewn busnesau bach

TAN 20

Deallwyd yr angen am gael modd i ystyried cynlluniau tai unigol, er eu bod o fewn cwmpas Cynlluniau Datblygu Lleol.

Meddai Swyddogion y Llywodraeth eu bod yn gobeithio bod gwaith sydd ar y gweill gyda Horizon (Wylfa) yn debygol o esgor ar fethodoleg asesu effaith ieithyddol y gellid ei defnyddio ledled Cymru. Bu Dyfodol eisoes mewn cyswllt â Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn a TAN 20, a byddwn yn holi am ddiweddariad yn sgil cwblhau’r gwaith hwn.

Addysg Gymraeg

Cytunwyd bod Cynlluniau’r Cynghorau Lleol yn annelwig, ac y bydd angen i’r Llywodraeth adolygu’r rhan fwyaf.  Bydd angen i’r Llywodraeth wedyn drafod y cynlluniau eto gyda’r Cynghorau.  Derbyniwyd nad oedd cael targed i gynyddu nifer plant 7 oed mewn addysg Gymraeg o fewn tair blynedd yn gynhyrchiol, gan fod y plant hyn eisoes yn y system.  Roedd y Gweinidog yn awyddus i weld Cynlluniau cryfach.

Meddai swyddogion y Llywodraeth bod y Llywodraeth yn gobeithio y bydd sgiliau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gwella o ganlyniad i gyflwyno’r continwwm ieithyddol. Roedden ni’n amheus a fyddai hyn yn debygol o gael llwyddiant mawr.