Mae angen treblu’r arian sy’n cael ei roi i Gymraeg i Oedolion. Dyna ddywed Dyfodol i’r Iaith yn sgil y cyhoeddiad y bydd cyllid Cymraeg i Oedolion yn cael ei dorri gan 7%. Mae Dyfodol i’r Iaith yn dra siomedig bod y toriadau i Gymraeg i Oedolion – sef £2.3 miliwn – yn fwy na’r arian ychwanegol sy’n cael ei gynnig i’r Mentrau Iaith ac i brosiect ar yr economi yn Nyffryn Teifi. Mae angen i raglen Cymraeg i Oedolion fod yn rhan ganolog o adfywio’r iaith yn y gymuned yn ôl Dyfodol i’r Iaith. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi ystyried rôl hollbwysig Cymraeg i Oedolion wrth dargedu rhieni newydd ac wrth hyfforddi gweithlu Cymraeg. I wneud gwahaniaeth mae angen gwario swm tebyg i Wlad y Basgiaid, sef tua £40 miliwn y flwyddyn.” Ychwanegodd Heini Gruffudd, “Dyw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau ni ddim yn ddigon dwys, a does dim rhaglen eang gyda ni i ryddhau pobl o’r gwaith i ddysgu’r iaith.” “Yn ardaloedd llai Cymraeg Cymru mae angen rhaglen sy’n targedu rhieni er mwyn newid iaith y cartref, ac i wneud hynny bydd angen i rieni gael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith. Mae angen mawr hefyd am sefydlu cadwyn o Ganolfannau Cymraeg i roi bywyd cymdeithasol newydd i’r iaith.” “Yn yr ardaloedd Cymraeg mae gan Gymraeg i Oedolion rôl allweddol wrth ddysgu’r iaith i fewnddyfodiaid.” “Mewn cyfnod o wanhad cymunedau Cymraeg, dyma’r union adeg i weithredu’n fentrus i ehangu darpariaeth Cymraeg i Oedolion.” Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion, ac yn galw am gyllid o £30 miliwn i’r Ganolfan yn lle’r £10 miliwn presennol.
Archifau Categori: Addysg
Adolygiad y Cwricwlwm Cenedlaethol
Cafodd yr Athro Graham Donaldson ei benodi gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trwyadl o’r Cwrwiclwm Cenedlaethol a dulliau asesu yng Nghymru. Yn ei ymateb i’r adolygiad mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw am roi gwell cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fod yn gwbl ddwyieithog ac am drawsnewid dysgu Cymraeg fel ail iaith
Mae’r ymtaeb yn llawn yma: Adolygu’r Cwricwlwm Ymchwiliad Donaldson Ymateb Dyfodol:
Cymraeg i Oedolion
ANGEN DYBLU GWARIANT I WAITH CYMRAEG I OEDOLION
Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhoi croeso i’r drefn newydd i waith Cymraeg i Oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd trefn ganolog yn cychwyn ym mis Medi 2015.
“Roedd cael trefn ganolog yn un o argymhellion Dyfodol i’r Iaith i Grŵp Adolygu Cymraeg i Oedolion,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith. “Wrth gael Sefydliad Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion, bydd modd i’r maes gael ei arwain gan arbenigwyr.”
Ond mae Dyfodol i’r Iaith yn poeni na fydd gan y Sefydliad ddigon o arian i ddatblygu’r maes fel y dylai.
“Mae’n drueni mawr, wrth ad-drefnu, bod y Llywodraeth yn torri’r arian fydd ar gael i Gymraeg i Oedolion gan 8%. Mae’r gwariant ar y maes yn awr ryw draean o’r hyn ydyw yng Ngwlad y Basgiaid, sydd mewn sefyllfa debyg i ni. Os ydyn ni o ddifri am roi bywyd newydd i’r Gymraeg ar draws Cymru mae angen i ni ddyblu’r gwariant, nid ei gwtogi,” meddai Heini Gruffudd.
“Dim ond trwy wario digonol y bydd modd i Gymraeg gael ei dysgu i oedolion yn drylwyr, gyda digon o oriau dysgu, ac mewn digon o fannau lleol.”
“Rydyn ni’n croesawu’r pwyslais ar y Gymraeg mewn teuluoedd, ond mae angen cael trefn addas i ddatblygu byddin o athrawon yn ein hysgolion, a llu o weithwyr sy’n delio â’r cyhoedd.
Ym mis Hydref 2012 cyflwynodd Dyfodol i’r iaith naw o argymhellion, gan gynnwys dyblu’r gwariant ar Gymraeg i Oedolion.
Roedd yr argymhellion eraill yn cynnwys:
- Cynnig rhaglenni dysgu hyd at 1200 o oriau
- Sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg
- Rhaglen rhyddhau dysgwyr o’u gwaith