DYFODOL YN BEIRNIADU CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD AC YN GALW AM GYMREIGIO’R GWEITHLE

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i hysbyseb Cartrefi Cymunedol Gwynedd am Ddirprwy Brif Weithredwr sydd ddim yn cynnwys unrhyw ofyniad i allu’r Gymraeg. Yn wir, yr unig gyfeiriad at yr iaith yn y fanyleb person yw’r angen am, “Ddirnadaeth o’r iaith Gymraeg a diwylliant Gogledd Cymru.”

Dywedodd Eifion Lloyd Jones ar ran y mudiad:

“Mewn ardal ble mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg, a mwyafrif llethol staff Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn ei defnyddio fel cyfrwng gwaith, credwn fod y penderfyniad hwn nid yn unig yn un cwbl annerbyniol, ond yn un anymarferol yn ogystal.”

“Afraid dweud y bod hwn yn gosod cynsail beryglus iawn. Yng nghyd-destun yr amcan i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, dylwn anelu ar Gymreigio’r gweithle a chefnogi’r Gymraeg ymysg y gweithlu. Nid oes hyd yn oed amod i ddysgu’r iaith ynghlwm a’r hysbyseb hwn.”

“Byddwn yn galw ar Gartrefi Cymunedol Gwynedd i ail-ystyried eu proses recriwtio, ac ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y gweithle fel maes allweddol i hyrwyddo twf y Gymraeg.”

 

 

 

 

DYFODOL YN GALW AM AMDDIFFYN Y GYMRAEG FEL PWNC ACADEMAIDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi gofid ynglŷn â dibrisio gwerth y Gymraeg fel pwnc academaidd ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd.

Yn sgil pwysau i gyflwyno arbedion, daeth cynigion i gyfuno Ysgol y Gymraeg yng Nghaerdydd gydag adrannau ieithoedd eraill, ac ym Mangor i gwtogi staff ar lefel Athro. Mae Dyfodol wedi cysylltu ag Is-Gangellorion y ddau sefydliad i bwyso arnynt wyrdroi’r cynigion, a hynny’n enw statws y Gymraeg fel pwnc a chyfrwng cenedlaethol.

Dywed Eifion Lloyd-Jones o’r mudiad; “Mae’r cynigion byrdymor hyn yn anfon neges hirdymor niweidiol mewn perthynas ag ymrwymiad hanesyddol y sefydliadau i’r iaith Gymraeg.”

“Rhaid gwarchod annibyniaeth ac arbenigrwydd y Gymraeg fel pwnc academaidd ym Mhrifysgolion y genedl, gan ystyried yr un pryd arwyddocâd y fath fygythiadau i statws a gwerth y Gymraeg ar lefel ehangach – fel cyfrwng cenedlaethol creadigol a chymunedol.”

“Rydym yn pwyso ar y sefydliadau allweddol hyn i gydnabod ac ymgymryd â’u rôl i gyfrannu at ffyniant y Gymraeg.”

 

DYFODOL YN CROESAWU GWARIANT ANGENRHEIDIOL AR Y GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu cyhoeddiadau diweddar y Llywodraeth i gyfrannu dros ddwy filiwn a hanner o bunnoedd at gynlluniau i hybu’r Gymraeg mewn teuluoedd, a dwy filiwn arall tuag at ddatblygiadau economaidd yn y gogledd a’r gorllewin (‘Arfor’), sef prif gadarnleoedd y Gymraeg.

Credai’r mudiad fod y ddau gynllun yn mynd i’r afael â blaenoriaethau sy’n allweddol i ffyniant y Gymraeg:

Mae hybu aelwydydd Cymraeg yn her mae’n rhaid ei wynebu; yn wir, byddai Dyfodol yn dadlau mai dyma’r maes pwysicaf oll, gan fod sefydlu’r Gymraeg fel iaith y teulu’n gosod patrwm ieithyddol i blant am weddill eu hoes.

Yr un pryd, rhaid ystyried y cyd-destun ehangach, a chydnabod bod meithrin economi gadarn yn ffactor angenrheidiol i warchod y Gymraeg fel cyfrwng cymunedol, a hynny er mwyn atal allfudo pobl ifanc ogystal â chreu hinsawdd gymdeithasol a diwylliannol sy’n ffafrio a chymell y Gymraeg.

Mae’r mudiad wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg, gan ddweud; “edrychwn ymlaen at weld y Llywodraeth yn datblygu’r ddau faes hanfodol hyn fel rhan o’u polisi hirdymor dros y Gymraeg.”